|
Hoffai SWP dynnu eich sylw at y ffaith ein bod yn parhau i weld cynnydd mewn achosion o ddwyn cerbydau a dwyn o gerbydau o fewn Sector Bae Caerdydd. Adroddiadau am: *Faniau Transit yn cael eu targedu er mwyn dwyn y cerbyd neu'r offer sydd ynddo. *Cerbydau'n cael eu targedu pan adewir eitemau personol i'w gweld. *Cerbydau'n cael eu targedu pan adewir hwy heb eu diogelu (HEB EU CLOI).
Rydym yn cynghori trigolion lleol i dynnu pob eiddo o'r cerbyd a chadw'r cerbyd wedi'i gloi pan nad oes neb ynddo ā hyd yn oed os ydych chi'n mynd i mewn i siopau am eiliad yn unig. Rydym yn deall bod hyn yn anodd os oes gennych lawer o eitemau neu offer mawr mewn faniau; fodd bynnag, rydym yn awgrymu ystyried gosod cloeon diogelwch ychwanegol ('deadlocks') ar y cerbydau. Er bod cost i hyn, gall colli offer arwain at golled ariannol fwy i'r perchennog na chost y clo ei hun. Rydym hefyd yn cynghori trigolion i ystyried prynu clo llywio, er mwyn atal y cerbyd rhag cael ei ddwyn.
|